Ysbrydol
Y Weledigaeth Ysbrydol
“O edrych yn ôl ar fy ngherfluniau dros y blynyddoedd, rwy’n sylweddoli bellach mai’r cymhelliad cryfaf a phwysicaf i mi i greu cerflun oedd derbyn gweledigaeth ysbrydol yn y meddwl. Fel arfer, mae gweledigaethau’n dod i mi fel rhyw sythwelediad, pryd rwy’n gweld presenoldeb delwedd niwlog yn sydyn yn y meddwl, delwedd sy’n awgrymu rhyw rym ysbrydol. Yna, mae’r dychymyg yn ymateb i bresenoldeb ysbrydol y ddelwedd honno, ac i nodweddion eraill a all fod ynddi, megis nodweddion chwedlonol, cymdeithasol neu rai gwleidyddol. Y peth mwyaf rhyfeddol yw bod y delweddau hynny i gyd, fel pe baent, yn codi o fy isymwybod yn rhywle.”
John
“Maent yn gyffrous, grymus, rhyfeddol ac yn gain.”
Rowan Williams, Archesgob Caergrawnt
