Gwaith cynnar
Gwaith cynnar
Mae’r oriel hon yn arddangos casgliad o waith cynnar John, crëwyd ei waith cynharaf yn bennaf yn yr arddull glasurol, ac mae enghreifftiau i’w gweld yn neuadd bentref Llanuwchllyn ar ffurf cyfres o furluniau i goffáu Syr O.M.Edwards sylfaenydd yr Urdd.
Mae’r arddull glasurol hon hefyd i’w gweld yn y portreadau a grëodd.
Ar ôl symud i Ghana dechreuodd ei waith gymeryd cyfeiriad mwy symbolaidd, cafodd ei ysbrydoli’n fawr gan gelfyddyd Affricanaidd, ymhlith y dylanwadau eraill oedd celfyddyd Geltaidd La Téne, y Mabinogi, crefyddau a chwedloniaeth. Adlewyrchir yr elfennau hyn i gyd yn ei arddull unigryw a adnabyddir yn ei waith symbolaidd/haniaethol diweddarach.
