I GOFEB TRYWERYN

O’r Ilyn daw cynnwr’ llonydd – a’r meirw
Sy’n galw ei gilydd,
O’u hing, a’u hwynebau sydd
Yn donnau ar adenydd.

Yn un llais clywn fudandod y lleisiau
milain, yn bwrw’u llid i’r cymylau;
Galar yn llafar yn eu hunllefau
O’r gweryd sydd eto’n boddi’r geiriau
Udo y mae’r eneidiau – yn eu hiaith
O anobaith trwy yr hen wynebau.

Eneidiau llesg yn codi
Yn un llais o ferw’r lli.
Côr o wae yn agor craith
Hen ofidiau’r anfadwaith
Yw’r côr uwch oerni’r cerrynt;
A chôr o ryw boblach ŷnt
Yn huno mewn adenydd.
A do, bu melltithio’r dydd
Daeth cawod o’r dyfodol
I ddwyn addewid y ddôl.

Y côr o wynebau caeth
Yn oriel sy’n llawn hiraeth,
Dan warchae yn dwyn archoll
Y cwm a’u gorffennol coll.

Un gân sydd yn eu genau, – un alaw
I hoelio’r wynebau
Yn eu hagrwch a’u dagrau;
Lleisiau Ilwm a’r cwm yn cau.

Yna, a’r llyn yn llonydd,
O raid fe dorrodd yn rhydd
Roced o dderyn drycin
A’i drem uwch gorwel y drin.
Un ergyd dros yr argae
I’r gofod o gysgod gwae.

O’r dŵr daeth yr aderyn – i hedfan
O adfyd y dyffryn,
Yn uchel uwch Cwm Celyn
A llef sy’n cynhyrfu’r llyn.

Dynion yw ei adenydd
Yn ffoi o’u tynged mewn ffydd,
I ganfod eu dyfodol
O dir y nos ddi-droi’n-ôl.
Herio’r mur tua’r hem wen.
Alarch yn ceisio heulwen.

Eglur fel dur y deryn
Yw’r llef o ddyfnder y llyn;
Gydag alaeth daeth y dydd
I annog yr adenydd
I godi, codi o’r cwm
I’r arlwy wedi’r hirlwm.

Eneidiau byw yn codi
Yn un llais uwchlaw y lli.
Esgyn o garchar llesgedd,
Mynnu bod er meini bedd.

Yna, o dir neb y daw’r wynebau
 hyder i fynnu eu heneidiau
O’r gaer fu cyhyd yn boddi’r geiriau;
Eto o afael yr hen hunllefau,
A’u mawl a drwy gymylau’r gorffennol
Iasol, a mwyach nid mud yw’r lleisiau.

Cynan Jones