Deryn y dŵr

Mae sŵn yn y maes unig
sy’n dorcalonnus a dig,
sŵn llais bron a drysu’n Ilwyr,
llais un yn colli’i synnwyr
a’r byd sy’n frwyn gan gwyno
ei gri hir ar hyd y gro.
Mae nyth oedd yma neithiwr
yn ddafnau dagrau’n y dŵr;
mae’r plisgyn gwyn ar y gwynt
ac oer yw’r crych ar gerrynt.


Lle bu’r wig, mae’n sefyll bren;
lle ynn, erbyn hyn, onnen.


Ond o gae sy’n ddim ond gwellt;
o’r Arenig; o’r crinwellt;
o feichio wylo’r helyg
ac o’r hesg a’r mynydd grug,
daw dioddef dolefwr
fel un aderyn o’r dŵr.


A chawn o’r un nodyn hwn
wisg o gân ac esgynnwn.

Myrddin ap Dapydd