COFEB TRYWERYN

Y babell
A ddisgynnodd.
Dadfachodd
Oddi ar sicrwydd ei huchelfannau
Gan adael y groesbren
Yn noeth.


O dan y canfas
Daw côr tuag atom
Yn gatrawd
Gan guro traed mewn ofn a dicter
Yno, ar y tamaid tir.


Nes i blu caredig
Lapio’n araf amdanynt
O’r tu ôl
A’u codi
Uwch llepian cyntefig y lli.


Angel
O grëyr unionsyth
Yn cludo ym meddalwch ei blu
Gwmwl tystion
Fry
Fry
A churiadau cryfion, cyson ei adenydd
Yn ergydio’n gordiau
Fel swn organ


Uwch anialwch anaele’r Amen

Nesta Wyn Jones