Amdan John Meirion Morris

1936 – 2020

John Meirion Morris 1936-2020

Yn dilyn ei fagwraeth ym mhentref Llanuwchllyn aeth John i Goleg Celf Lerpwl lle cafodd sylfaen ei addysg greadigol trwy y traddodiad clasurol o gerflunio, yn fuan wedyn cafodd swydd fel darlithydd ym Mhrifysgol Kumasi yn Ghana, cafodd y profiad hwn effeith ddofn ar ei waith. Yma ysbrydolwyd ef gan gerfiadau a cherfluniau symbolaidd a chrefyddol, roedd dawnsfeydd y bobol gyffredin hefyd yn ysbrydoledig trwy ei symudiadau mynegiant a theimladau. Dychwelodd i Gymru i ymgymryd â swydd fel darlithydd mewn cerflunio ac addysg gelf ym Mhrifysgol Aberystwyth. Yn ôl John dyma pryd dechreuodd ei arddull newid yn ddramatig, daeth yn ymwybodol o ddelweddau yn ei feddwl gan eu gweld mewn ffyrdd trosiadol, dychmygol a chrefyddol.

Yn 1984, bu’n cydweithio ag artistiaid a chrefftwyr eraill i sefydlu’r gymdeithas GWELED, roedd hefyd yn ddylanwad enfawr ar yr Eisteddfod Genedlaethol gan eu perswadio i benodi Swyddog Artistig llawn amser. Yn dilyn cyfnod ym Mangor, dychwelodd John a Gwawr i fyw i Lanuwchllyn lle bu’n parhau i gerflunio hyd at 2018.

Ganwyd: 14th of March, 1936
1956 – 1960 Coleg Celf Lerpwl
1960 – 1961 ‘Post Graduate Year in Sculpture’ Coleg Celf Lerpwl
1961 – 1962 A.T.D. Prifysgol Lerpwl.
1989 M.Phil. Prifysgol Bangor, Cymry.
2001 MOMA , ‘Gwobr Owain Glyndwr ’ – am gyfraniad nodedig i’r Celfyddydau yng Nghymru.
Darlithydd ym Mhrifysgol Aberystwyth, Bangor ac ym Mhrifysgol Kumasi, Ghana yn Affrica.
1995 Cerflunydd proffesiynol

2016 Anrhydeddwyd â Chymrodoriaeth er Anrhydedd gan Brifysgol Bangor am wasanaethau i’r celfyddydau.

Bu farw 18/09/2020

 

Bran/Rhyddid

Arddangosfeydd

1993 Arddangosfa ar y cyd John ac Aneurin Jones, ‘Myfyrdod Dau Gymro’ mewn tri lleoliad.

1993 Hydref 7fed Oriel Bangor.

1993 Hydref 11 Oriel Myrddin, Caerfyrddin.

1993 Hydref 27 – Rhagfyr 18 Canolfan Y Tabernacl, Machynlleth.

1994 Mai 7fed – 26 Arddangosfa ar y cyd rhwng John ac Aneurin Canolfan Y Plase, Y Bala.

1996 Cyflwynodd Ddarlith Hallstatt yn y Tabernacl Machynlleth ‘Ffordd Geltaidd o Weld a Meddwl’.

1999 Arddangosfa unigol yn MOMA, Tabernacl, Machynlleth.

2000 Y Tabernacl, Machynlleth. ‘Presenoldeb’.

2000 Arddangos dau gerflun a fidio yn arddangosfa ‘Certain Welsh Artists’ yn Amgueddfa Genedlaethol Cymru, Caerdydd.

2001 Oriel Bangor. ‘Presenoldeb’.

2003 Canolfan Rhiannon, Tregaron.

2004 Arddangosfa unigryw yng Nghaplandy, Prifysgol Bangor. ‘Y Weledigaeth Fewnol’

2004 – 2007 Arddangos maquette o ‘Gofeb Tryweryn’ yn Llysgenhadaeth Prydain, Efrog Newydd, America.

2005 Arddangosfa solo yn y Oriel Royal Cambrian Academy, Conwy, Cymru. Derbyn anrhydedd fel Aelod Anrhydeddus, sef R.C.A . Academi Cambrian Cymru, Conwy.

2008 Oriel Plas Glyn y Weddw – Arddangosfa ar y cyd gydag Iwan Bala a Clive Burnell.

2009 Arddangosfa ôl-syllol yn Oriel Gregynog, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth, Cymru.

2010 Arddangosfa ar y cyd yn Oriel Môn, Sir Fôn, Cymru

2010 Cantref, Bala, ‘Y Presenoldeb Mewnol’.

2012 Y Tabernacl, Machynlleth.

2017 Arddangosfa unigol yn Storiel, Bangor.

Cyhoeddiadau ac Erthyglau

1 ‘Y Weledigaeth Geltaidd’ gan John Meirion Morris, cyhoeddwyd gan y Lolfa 2002.

2 ‘John Meirion Morris Artist’ gan yr athro Gwyn Thomas 2011.

3 Iwan Bala ‘Certain Welsh Artist’ – erthygl gan John Meirion Morris o’r enw ‘Imagination and the Magic of tradition’, llyfrau ‘Seren’ 1999.

4 Patrick Hannay, ‘Touchstone’ architecture magazine – erthygl olygyddol, Hydref 1999.

5 John Lane @ Satis Kumar, ‘ Images of Earth & Spirit’ ( John Meirion Morris A Sculptor of Spirit, erthygl gan Professor Peter Abbs ), 2003.

6 Peter Abbs, ‘Against the Flow’, Routledge Falmer, London, 2003.

7 ‘Urthona’ a Buddist journal of cultural renewal, Art, Poetry, Ideas, Visions, article: ‘The Inner Kingdom’ gan John Meirion Morris, Cambridge, Issue25, 2008.

About John Meirion Morris