Aderyn Tryweryn

Breuddwyd Aderyn Tryweryn

“Yn y lle cyntaf, gwelais bresenoldeb ysbrydol, sef rhyw ymdeimlad oesol yn rhan o ddelwedd fertigol niwlog yn codi yn fy meddwl, megis siâp ystum hir pig aderyn mawr yn fy nychymyg – profiad sydd yn arferol i mi wrth ddechrau creu cerflun. Roedd yn ymddangos fel pe bai ar godi. Dyna oedd y ddelwedd ar y dechrau, fy nhasg i wedyn oedd manylu arni yn ymhellach yn fy nychymyg.

Ymhen amser, dechreuais weld plu adenydd yr aderyn fel rhesi o bennau’n canu, a hyd yn oed yn gweiddi, yn union fel pe baent yn protestio.

Fe wnaeth hyn fy atgoffa’n syth o helynt boddi Cwm Tryweryn. Teimlais fod y ddelwedd bellach nid yn unig yn un ac iddi naws ysbrydol gref, ond bod iddi arwyddocâd gwleidyddol a chymdeithasol: yr oedd yn mynegi ein sefyllfa wantan ni fel Cymry i warchod ein gwlad.

John

Lleoliad arfaethedig Aderyn Tryweryn

Galeri Aderyn Tryweryn

Diolch am ymweld!