ADERYN RHYDDID

Aderyn Rhyddid
O wyll hen warth
A hen ofnau dwfn ein doe,
O gysgodion adfeilion,
Yn fyw,
O afael y dŵr,
Fel aderyn
Ymledwn, cyfodwn,
A’n cof o hyd
Yn bywhau ein bod,
Y cof am y rhyddid coll
A’i urddas hardd;
A’n hiaith hithau
Yn anadl yn y fynwes,
Yn gŵyn ac yn gân
Yn ein genau,
Yn un waedd rhwng y mynyddoedd;
Esgyn o’r cysgod
Yn guriad calon,
Yn ymchwydd bron
I wynebu’r haul;
O gywilydd i’r golau
Ar awyr eang,
Yn brydferth, nerthol,
Yn rhydd
Ar adenydd o dân.

Ieuan Wyn