John Meirion Morris

Mae’r wefan hon wedi ei chreu fel teyrnged a chofnod o waith unigryw a grymus John Meirion Morris.

Diolch i bawb a gyfrannodd at greu y wefan hon.

Cerflunydd Proffesiynol
John Meirion Morris

JOHN MEIRION MORRIS Y CERFLUNYDD

14 Mawrth 1936 – 18 Medi 2020

“Heb amheuaeth mae John Meirion Morris yn Gerflunydd Cymreig pwysig.”

“Mae ei waith yn rhannu’n ddau fath. Y cyntaf o’r rhain yw ei waith cynrychiolaethol a fynegwyd mewn cyfres o benddelwau grymus yn amrywio o’r bardd Gwenallt i Gerallt. Mae’r pennau nerthol hyn, sy’n gweithio yn nhraddodiad Rodin ac Epstein, yn dangos empathi rhyfeddol ac yn feistrolaeth syfrdanol o’r ‘genre’.

Mae’r ail fath yn glasurol symbolaidd ei natur.

Yn fy marn i rhain sydd gyfystyr â’i waith mwyaf gwreiddiol. Mae gan y cerfluniau, ar eu gorau, naws gyfoes yn ogystal â cherrynt ddi-amserol pwerus. Mewn rhai cyd-destunau mae gan y gwaith, fel y darn gwych Tryweryn, arwyddocâd diwylliannol a gwleidyddol uniongyrchol.

Rhaid i’w waith fod ymhlith y mwyaf heriol sy’n cael ei greu yng Nghymru ar hyn o bryd.”

Professor Peter Abbs, Prifysgol Sussex

“Mae ei waith yn gydnaws ac artistiaid ysbrydol fel Kapoor a Gormley. Gellir darllen crefydd neu ysbrydolrwydd yn ei waith…”

Hugh Adams, Beirniad Celf

John Meirion Morris

Cyflwyniad fideo byr