unj o darnau waith John Meirion Morris  
john meirion morris - cerflunydd - sculptor
 

Cofeb Tryweryn

Cofeb Treweryn - cerflyn gan John Meirion Morris

Crewyd y darn hwn yn arbennig ar gyfer prosiect fyddai'n gyfle unigryw i genedl gofio am Dryweryn - trwy gyfrannu at apel i sicrhau cofeb fyddai'n deilwng i gofio am yr hyn a fu. Cofeb fyddai hon i groesawu cyfnod newydd yn hanes Cymru.

Eisioes mae'r rhestr o gefnogwyr yn cynnwys enwau megis Jan Morris, Arglwydd Cledwyn, Hywel Teifi Edwards, Arglwydd Gwilym Prys Davies, Gerallt Lloyd Owen, Ron Davies AS, Elfyn Llwyd AS, Peter Lord, Dafydd Iwan a llawer eraill.

"O fod yn gronfa ein seithuctod gynt, y mae gennym gyfle yn awr i droi Tryweryn yn arwyddlun o'n penderfyniad fel cenedl i hawlio'n gwlad a mawrhau ein cyfrifoldeb. Dyrchafwn ein hyder uwchlaw'r argae". (Yr Athro Hywel Teifi Edwards)

"Fel y goreuon o’i waith, mae ‘Cofeb i Dryweryn’ yn gyfoes ac yn oesol ar yr un pryd, ac yn annhebyg mewn arddull i waith unrhyw artist arall"’( Iwan Bala, Beirniad Celf.)

"In 1957, against passionate Welsh opposition, Parliment at Westminster decreed that the valley of the Tryweryn river, near Y Bala in Gwynedd, should be flooded to make a reservoir for the English city of Liverpool. Within a few years, the very Welsh village of Capel Celyn disappeared forever beneath the waters, and all its inhabitants had to move elsewhere. This wretched event was paradoxically to prove a turning point in the history of Wales, convincing Welsh people that they must have the right to govern their own affairs. To mark its fortieth anniversary, to express sorrow for the end of Capel Celyn and its heritage, and to symbolize the new Welsh era of hope and reconciliation that it helped to bring about, a monument is to be placed beside the dam which, a generation ago, so fatefully inspired Welsh patriots to the slogan "Cofiwch Dryweryn" - remember Tryweryn". (Jan Morris)

Mae'r gofeb yn costio £250,000 ac er mwyn cyfrannu swm bach neu fawr mae posib gyrru sieciau i-

COFEB TRYWERYN, Ty Newydd, Llanuwchllyn, Y Bala, Gwynedd, LL23 7TL

  gwefan gan keith morris / red snapper 2005 keith@artx.co.uk