Blodeuwedd gan  John Meirion Morris
Blodeuwedd
 
john meirion morris - cerflunydd - sculptor
 

Ganwyd John Meirion Morris yn y flwyddyn 1936, fel mab i siopwyr yn Llanuwchhyn. Mae’n cydnabod dylanwad cymdeithasol a diwylliannol Llanuwchllyn arno, megis bod yn aelod o dri chôr yn 17 oed. Côr cerdd dant enwog Godre’r Aran oedd un ohonynt.

Aeth i Goleg Celf Lerpwl, lle cafodd gefndir a hyfforddiant yn y traddodiad clasurol, lle roedd pwyslais cryf ar ‘life drawing’ a ‘life modelling’ – gormodiaeth cul oedd yn tanseilio datblygiad y dychymyg yn ôl ei farn ef. Er hynny, derbyniodd flwyddyn ychwanegol ‘Post Graduate’ pryd y cafodd gomisiwn enfawr i greu 5 o furluniau mawr i goffau bywyd a gwaith Syr O.M. Edwards. Mae’r gwaith i’w weld ar furiau Neuadd Bentref Llanuwchllyn. Cyflawnodd gwrs tystysgrif athro dan nawdd Prifysgol Lerpwl yn 1961. Cychwynnod ar yrfa fel athro celf yn Llanidloes am dair blynedd. Yn ystod y cyfnod hynny cynhyrchodd ddwy opera ‘Gilbert a Sullivan’ i gwmni opera newydd tre Llanidloes.

Yn 1964, cafodd swydd darlithydd yn Ysgol Gelf Leamington Spa, yn Lloegr, lle daeth wyneb yn wyneb â math o chwyldro, sef arbrofion haniaethol ‘cyrsiau sylfaenol’ mewn celf a dylunio. Er cydnabod bod lle i arbrofi, roedd John Meirion yn anfodlon â natur a safon celfyddyd ym Mhrydain ar y pryd.

Yn 1966, penderfynodd fynd i Affrica, cafodd swydd fel darlithydd yn Mhrifysgol Kumasi yn Ghana. Bu y profiad o weld cerfluniau symbolaidd, crefyddol a dawnsio beiddgar oedd yn mynegi teimladau a dyheadau’r werin yn ddylanwad mawr arno. Roedd yn ei atgoffa o bwysigrwydd traddodiad barddoniaeth a cherdd dant yng Nghymru.

Yn 1968, cafodd swydd fel darlithydd mewn cerflunio ac addysg celf ym Mhrifysgol Cymru Aberystwyth. Ynghyd â darlithio bu’n dylunio setiau ac yn cyfarwyddo dramau gyda’r myfyrwyr yn Theatr y Werin. Bu hefyd yn cydweithio â’r adran ddrama yn y coleg (gweler, chwith, set ar gyfer drama ‘Blodeuwedd’ gan Saunders Lewis). Dyma’r adeg pryd y newidiodd ei gerfluniau yn syfrdanol, pryd y dechreuodd weld delweddau yn ei feddwl, sef ffordd drosiadol, dychmygol a chrefyddol o weld.

Yn 1984, ar y cyd ag artistiaid a chrefftwyr eraill, penderfynodd sefydlu cymdeithas GWELED (Cymdeithas Gymraeg y Celfyddydau Gweledol). Hefyd, penderfynodd bod angen trawsnewid Celf a Chrefft yn yr Eisteddfod Genedlaethol, pryd y gwnaeth ddau adroddiad i ddarbwyllo yr Eisteddfod i gyflogi swyddog Celf amser llawn.

Wedi un mlynedd ar ddeg o ddarlithio yn Aberystwyth, rhoddodd ei swydd i fyny er mwyn canolbwyntio ar gerflunio. Yn y cyfamser, penderfynodd wneud ymchwil i arwyddocad y gelfyddyd Geltaidd La Tène.

Yn 1985, aeth ôl i ddarlithio, cafodd swydd pennaeth adran gelf yn y Coleg Normal ym Mangor.
Ymddeolodd yn 1990, ac ers hynny cerflunio yw ei fryd.

Manylion ychwanegol ar y CV Saesneg.

  gwefan gan keith morris / red snapper 2005 keith@artx.co.uk